Ffion Dafis yn ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022
Mae Ffion Dafis wedi ennill teitl Llyfr y Flwyddyn gyda’i nofel Mori.
Cafodd y llyfr ei alw’n “gampwaith” gan feirniad y wobr.
Roedd y nofel wedi ennill categori Ffuglen Cymraeg yn gynharach yn yr wythnos.
Mae Mori yn canolbwyntio ar Morfudd a'i hobsesiwn gyda merch drydanol sy'n gofyn i fod yn ffrind iddi ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae Ffion yn enw cyfarwydd yn y maes celfyddydau yng Nghymru wrth actio mewn sawl cyfres deledu megis Amdani a Byw Celwydd.
Mae hi'n derbyn £4,000 mewn gwobr ariannol, yn ogystal â thlws wedi ei ddylunio a’i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones.
Awduron casgliad Y Pump, enillodd Gwobr Barn y Bobl Golwg360.
Roedd y casgliad wedi ennill y wobr am y categori Plant a Phobl Ifanc.
Mae Y Pump yn gyfrol o bum nofel, pob un wedi eu cyd-ysgrifennu gan ddau awdur.
Roedd Paid â bod Ofn gan Non Parry wedi dod yn fuddugol yn y categori Ffeithiol Greadigol a Merch y llyn gan Grug Muse yn y categori Barddoniaeth.
Mae enillwyr pob categori wedi derbyn gwobr ariannol o £1,000 yr un yn ogystal â thlws o waith Angharad Pearce Jones.
Llun: Llenyddiaeth Cymru