Codiad cyflog athrawon yn 'slap yn y wyneb'
Codiad cyflog athrawon yn 'slap yn y wyneb'
Fe fydd athrawon Cymru yn derbyn cynnydd mewn cyflog eleni, ond ni fydd eu tal yn codi yn unol â chwyddiant.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cyflogau athrawon yn cynyddu 5% o fis Medi ymlaen, gyda'r posibilrwydd y bydd cynnydd arall o 3.5% flwyddyn nesaf.
Mae'n golygu y bydd cyflogau ar gyfer athrawon newydd yn cynyddu i £28,866 tra bydd athrawon mwy profiadol yn gweld eu tal yn codi i £44,450.
Daw hyn wedi i'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, dderbyn argymhellion adroddiad annibynnol ar gyflogau athrawon.
Er bod Mr Miles yn dweud ei fod yn ceisio "gwobrwyo" athrawon am eu gwaith, mae'r cynnydd yn is na raddfa chwyddiant yn y DU ar hyn o bryd.
Cyrhaeddodd chwyddiant ei lefel uchaf mewn 40 mlynedd yr wythnos hon wrth godi i 9.4%. Mae disgwyl i'r lefel godi mor uchel â 11% dros yr wythnosau nesaf.
'Slap yn y wyneb'
O ganlyniad, mae'r cynnig wedi derbyn beirniadaeth chwyrn gan rai o'r undebau llafur, gan honni bod athrawon yn derbyn toriad mewn cyflog mewn gwirionedd.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol NASUWT, Patrick Roach, y bydd athrawon "mewn sefyllfa waeth" yn sgil y pecyn.
"Mae'n warthus bod gymaint o athrawon profiadol ac arweinwyr ysgol yn gadael y maes a ni fydd y cyhoeddiad yma yn gwneud llawer i newid hynny," meddai.
"Er bod Llywodraeth Cymru wedi addo y bydd datganoli tal ac amodau yn rhoi del gwell i athrawon, y gwirionedd yw bod athrawon yn cael eu gofyn i fyw gyda llai na disgwyl."
Ychwanegodd Laura Doel o NAHT Cymru, bod y pecyn yn "slap yn y wyneb" i athrawon sydd wedi gweithio mor galed dros y blynyddoedd diwethaf.
"Mewn gwirionedd mae hwn yn doriad mewn tal ac yn gwneud dim i ddelio gyda degawd o doriad i gyflogau athrawon."
"Mae'n slap yn y wyneb i athrawon sydd yn flinedig ar ôl blwyddyn arall o bwysau aruthrol a thoriadau i wasanaethau angenrheidiol."
Dywedodd sawl undeb ar draws Cymru y bydd pleidleisiau yn cael eu cynnal dros fynd ar streic yn sgil y pecyn.
Er hyn dywedodd Gweinidog Cysgodol dros Gyllid y Ceidwadwyr Cymraeg, Peter Fox, bod y pecyn yn un "teg."
"Tra bod yna ddymuniad i roi mwy o wobr i weithwyr cyhoeddus gyda chostau byw'n cynyddu, mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol iawn o effaith posib hynny ar chwyddiant."
"Dylai'r Llywodraeth Lafur nawr fabwysiadu'r argymhellion ar gyfer staff y GIG a gyhoeddwyd yn gynharach yn yr wythnos yn hytrach na chodi ffrae wleidyddol gyda Llywodraeth Geidwadol y DU."
Mae Newyddion S4C wedi gofyn wrth y Llywodraeth am eu hymateb i'r feirniadaeth.