Merch wyth oed yn torri record y byd am enwi pob prifddinas
Mae disgybl wyth oed o Gaerdydd wedi torri record y byd am enwi bob prifddinas ac arian cyfred pob un o 195 gwlad y byd.
Anne Winston o Ysgol Gynradd Pontprennau, yw'r person ieuengaf yn y byd i dorri'r record, trwy adrodd y prifddinasoedd mewn 7 munud ac 15 eiliad.
Cafodd record Anne ei ffrydio'n fyw ar dudalen YouTube OMG Book of World Records, oedd wedi trefnu'r digwyddiad.
Roedd y record flaenorol yn berchen i ferch 10 oed, ond, gydag ymgais lwyddiannus Anne, hi yw deiliad presennol y record o ran oedran. Roedd cynrychiolwyr o OMG Book of Records yn bresennol yn y digwyddiad ar-lein a chyflwynwyd tystysgrif i Anne yn fyw ar yr awyr ar ôl iddi dorri'r record.
Dechreuodd Anne ddysgu mwy am brifddinasoedd y byd pan oedd ei thad yn sôn wrthi am holl wledydd gwahanol y byd pan oedd ef yn mynd a hi i'r ysgol.
Dywedodd Anne fod hi'n treulio 15-20 munud yr wythnos yn dysgu set newydd o brifddinasoedd ac arian cyfred ac yn ymarfer bob dydd.
Wedi iddi dorri'r record, dywedodd: "Rwy'n falch iawn fy mod i wedi cyflawni'r record byd hon a wnes i fel teyrnged i fy nhad-cu hyfryd fu farw'n ddiweddar.
"Rwy'n gobeithio y bydd fy ymgais yn ysbrydoli llawer o blant eraill ledled y byd ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Hoffwn ddiolch i fy nheulu cyfan, athrawon, ffrindiau a phawb sydd wedi dymuno'n dda ac sydd wedi fy nghefnogi drwy gydol fy nhaith i wneud hyn yn bosibl."
Dywedodd ei rhieni: "All geiriau ddim disgrifio ein hemosiwn a'n llawenydd ac rydyn ni wir yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at bethau mawr iddi yn y dyfodol."