Cyswllt rheilffordd rhwng Aberystwyth a de Cymru erbyn 2027?
Mae’n bosib y bydd cynlluniau i ddatblygu cyswllt rheilffordd rhwng de Cymru ac Aberystwyth ar waith erbyn 2027 yn ôl dogfen cynllunio trafnidiaeth newydd gan Lywodraeth Cymru.
Mae Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol 2022 Llywodraeth Cymru yn cynnwys rhestr o brosiectau sydd ar y gweill, gyda chynlluniau i ddatblygu cynllun ar gyfer y rheilffordd i Aberystwyth erbyn 2025 ac amlinellu’r dyluniad erbyn 2027.
Er hynny, mae’r ddogfen yn nodi y gallai’r cam cynllunio symud “tu hwnt” i hynny.
Mae cytundeb cydweithredu Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i “ofyn i Drafnidiaeth Cymru a phartneriaid eraill archwilio sut y gellir datblygu cysylltiadau trafnidiaeth rhwng gogledd a de Cymru”.
Darllenwch y stori'n llawn yma.