Beti George yn derbyn Gradd er Anrhydedd gan Brifysgol Abertawe
Mae'r darlledwraig a'r ymgyrchydd dros gofal dementia Beti George wedi derbyn Gradd er Anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.
Derbyniodd hi'r radd yn ystod seremoni raddio Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ddoe.
Dechreuodd Beti George ei gyrfa fel newyddiadurwr gyda’r BBC ar ddechrau’r 1970au, cyn cyflwyno rhaglenni newyddion, materion cyfoes a cherddoriaeth ar S4C yn y 1980au.
Ers 1987, mae hi wedi cyflwyno sioe wythnosol ar BBC Radio Cymru, Beti a'i Phobol ac eisoes ymgyrchu dros gynyddu ymwybyddiaeth o glefyd Alzheimer a gofal i bobol sy’n byw â dementia.
Wrth dderbyn yr anrhydedd, dywedodd Beti George "Mae’n anrhydedd enfawr i gael cydnabyddiaeth gan Brifysgol Abertawe.
"Pan oeddwn yn gofalu am fy mhartner David a oedd yn dioddef o Alzheimer, doeddwn i ddim yn ei ystyried yn faich.
“Gyda llaw, mae fy ymgyrch i sicrhau bod y Gymraeg wrth galon gofal dementia yn parhau!”