
Galwad am newidiadau i sicrhau fod amaeth a thwristiaeth yn ffynnu yng nghefn gwlad

Galwad am newidiadau i sicrhau fod amaeth a thwristiaeth yn ffynnu yng nghefn gwlad
Mae angen newid y system gynllunio yn Eryri i sicrhau bod cymunedau amaethyddol yn ffynnu ochr yn ochr â thwristiaeth.
Dyna farn un o gadeiryddion Undeb Yr NFU yn lleol.
Dyw Rhodri Jones, cadeirydd yr undeb ym Meirionnydd, ddim yn credu bod y polisi cynllunio lleol presennol yn gynaliadwy.
Dywedodd y byddai hi “bron yn amhosib” iddo droi adeilad ar ei dir yn dŷ i’r genhedlaeth nesaf allu byw ynddo, ond y buasai’n “cael caniatâd fory” i’w drosi’n llety gwyliau.
Mae'r awdurdod cynllunio lleol, Parc Cenedlaethol Eryri yn dweud mai tai fforddiadwy yw eu blaenoriaeth, gan ychwanegu fod “opsiynau ar gael… i drosi adeiladau amaethyddol yn gartrefi”
'Ddim yn gynaliadwy'
Mae Rhodri Jones yn ffermio yn y bryniau uwchben Llyn Tegid.
“‘Dan ni yma ers pedair cenhedlaeth, pum cenhedlaeth, a gobaith pob ffermwr, mae’n debyg, ydy bod y genhedlaeth nesa’ isio aros yma,” meddai.
“Mae hi bron yn amhosib i fi drosi tŷ yn fama os oes gen i deulu lleol isio dod yma i fyw, ond eto, ‘swn i isio gwneud tŷ gwylie, fyswn i’n cael caniatâd fory.

“Dwi ddim yn gweld hynny’n gynaliadwy yn symud mlaen… ond mae twristiaeth yn rhan fawr o’r economi wledig hefyd.
“Mae’n rhaid i amaeth fod yn gallu ffynnu a … rhaid i dwristiaeth.”
Mae David Prysor Jones a’i griw o wardeniaid o Barc Cenedlaethol Eryri yn goruchwylio’r hyn sy’n digwydd yn lleol.
“Mae hwn yn un o’r llefydd prysuraf sydd gennym ni yn y parc,” meddai.
“‘Dan ni isio denu pobl yma, mae pobl yn ddibynnol ar dwristiaid yn dod, ond ar y llaw arall mae ’na dir amaethyddol yn mynd law yn llaw gyda’r twristiaid.
“Yn amlwg maen nhw yn gwrthdaro rhai adegau.”
Mae’r parc yn cymryd mesurau fel newid camfeydd am giatiau sy’n cau eu hunain, a chynnig gosod arwyddion ar ran perchnogion tir, i annog ymddygiad cyfrifol ar dir amaethyddol.
“Mae Covid di amlygu ambell i broblem,” meddai David Prysor Jones.
“’Dan ni wedi gweld cynnydd mewn pobl yn ymweld ag Eryri. Mae wedi bod yn her i’r parc i ddelio efo’r problemau ‘ma, ond ‘dan ni yn rhoi pethau yn eu lle i geisio delio gyda’r problemau ‘ma.”
Rhyw 20 milltir i’r gogledd yng Nghapel Curig, daw’r tensiynau hynny i’r amlwg ar dir Elwyn Jones. Er gwaethaf arwyddion clir yn dweud bod dim hawl tramwy yno - mae pobl yn tyrru i nofio mewn rhan o afon Llugwy sy’n croesi ei fferm.

“Fydda’ i’n gofyn yn iawn iddyn nhw gyntaf, gofyn iddyn nhw adael, ac wedyn mae’r iaith a’r cega ‘ma yn dod,” meddai.
“Maen nhw’n gadael gymaint o lanast yno hefyd… Fydda’ i’n poeni rhag ofn bod ‘na gŵn lawr yna, ac mae’n rhaid i fi jecio yn aml achos hynna, yn fwy ‘na’m byd.”
Mae Elwyn Jones, sydd hefyd yn gynghorydd cymunedol, yn ffilmio’r bobl sy’n mynd ar ei dir preifat. Yn ogystal ag effaith bosib cŵn ar ei ddefaid sy’n pori gerllaw, mae’n poeni am ddiogelwch y rheiny sy’n nofio.
Dydy o ddim yn gwrthwynebu twristiaeth, ac mae’n rhedeg bythynnod gwyliau ei hun. Ond mae’n galw am “falans” mewn polisi cyhoeddus.
“Parch ‘dan ni isio, [a’u bod nhw yn] cadw’r lle’n daclus ac yn lân,” meddai.
Yn ôl Elwyn Jones, dylai ei bod hi’n haws cael gafael ar wardeniaid y Parc Cenedlaethol i adael iddyn nhw wybod am broblemau sy’n codi.

Dywedodd llefarydd fod “rhoi cyngor i’r cyhoedd ar sut i ymddwyn yn ddiogel a chyfrifol yng nghefn gwlad” yn rhan o swydd warden, “yn ogystal â chydweithio efo pherchnogion tir”.
Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru bod eu polisi newydd ar dai gwyliau yn “cynnwys newidiadau i reoliadau cynllunio… fydd yn cyflwyno tri dosbarth defnydd cynllunio newydd – cartref cynradd, ail gartref a llety gwyliau tymor byr.”
“Bydd awdurdodau cynllunio lleol, lle mae ganddynt dystiolaeth, yn gallu gwneud diwygiadau i’r system gynllunio i ofyn am ganiatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd o un dosbarth i’r llall,” meddai llefarydd.