Tîm Prydain, nid Cymru yn rygbi saith bob ochr
Ni fydd tîm Cymru yn cystadlu yn y gyfres ryngwladol rygbi saith bob ochr yn 2023 wrth i dair o wledydd Prydain gyfuno ar gyfer y gystadleuaeth.
Bydd chwaraewyr Cymru, Lloegr a'r Alban yn cystadlu ar y cyd yn nhîm Prydain ar gyfer y tymor 2022/23, yng nghystadlaethau'r dynion a'r menywod.
Mae hyn yn rhan o gynlluniau i gael " Team GB " yn unig ar y llwyfan rhyngwladol saith bob ochr yn y dyfodol.
Mae'r newid yn digwydd ar drothwy'r Gemau Olympaidd yn 2024 , ac yn rhan o baratoadau tîm Prydain i geisio ennill medal ym mhrifddinas Ffrainc, Paris, medd datganiad gan Undeb Rygbi Cymru.
Er na fydd modd i Gymru gystadlu yn y gyfres ryngwladol, bydd Undeb Rygbi Cymru yn parhau i drefnu tîm saith bob ochr ar wahân i dîm GB.
Mae hyn yn golygu y bydd modd i Gymru gystadlu fel tîm yng Ngemau'r Gymanwlad a Chwpan y Byd saith bob ochr.
Dywedodd cyfarwyddwr perfformiad Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker, fod y newid yn "gyfle i chwaraewyr Cymreig gyrraedd y Gemau Olympaidd."
"Byddwn yn parhau i gynnal rhaglenni saith bob ochr yng Nghymru i ddatblygu chwaraewyr a hyfforddwyr i sicrhau bod yna dalent sydd yn medru cystadlu i fod yn rhan o dîm Prydain."
Llun: Asiantaeth Huw Evans