Tanau ar hyd y Deyrnas Unedig o achos tywydd crasboeth

Mae tywydd crasboeth dros y tri diwrnod diwethaf wedi achosi tanau ar hyd y Deyrnas Unedig.
Roedd gwasanaethau tân yn Llundain, De Efrog a Sir Gaerlŷr yn delio gyda nifer o dannau wrth i gaeau sych ac adeiladau ddechrau cynnau.
🔔 | BREAKING:
— LADbible (@ladbible) July 19, 2022
Footage from the A2 near Dartford shows a huge fire forming by the side of the road. pic.twitter.com/Epae1MhdMD
Yn Ynys Môn roedd ffarmwr yn ceisio achub ei fyrnau gwellt wrth i'w gae fynd ar dân.
Cofnodwyd tymheredd poethaf y Deyrnas Unedig ddydd Mawrth wrth i Gerddi Fotaneg Rhydychen gyrraedd tymheredd o 40.3 gradd Celsius.
Mae naw o'r deuddeg diwrnod poethaf ym Mhrydain ers 1884 wedi digwydd yn y ddau ddegawd diwethaf.
Yn ôl Pennaeth Gwyddoniaeth y Swyddfa Dywydd, Yr Athro Stephen Belcher fe allen ni weld tywydd eithafol fel hyn yn fwy aml.
"Os ydyn ni'n parhau mewn sefyllfa gydag allyriadau uchel, fe allen ni weld tymereddau fel hyn bob tair blynedd. Yr unig ffordd i sefydlogi'r hinsawdd yw cyrraedd sero net yn fuan."
Yn dilyn y cyfnod o dywydd poeth, mae disgwyl i gawodydd trwm a stormydd ddigwydd yn rhannau o ogledd Lloegr a de'r Alban, gyda'r posibilrwydd o lifogydd, toriadau pŵer ac oedi i drafnidiaeth.