Chwyddiant yn codi i 9.4% yn sgil cynnydd mewn costau byw

Mae chwyddiant wedi codi i'w ganran uchaf mewn 40 mlynedd yn sgil y cynnydd mewn costau byw.
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi nodi bod chwyddiant wedi codi i 9.4% fis Mehefin, cynnydd o 0.3% ers mis Mai.
Roedd economegwyr wedi disgwyl i'r cynnydd mewn costau tanwydd osod pwysau eithriadol ar chwyddiant.
Mae Banc Lloegr yn disgwyl cynnydd arall erbyn mis Hydref. Gallai'r lefel godi hyd at 11%.
Darllenwch fwy yma.