Costau byw: 400,000 o gartrefi incwm isel i gael taliad o £200

20/07/2022
S4C

Bydd dros 400,000 o aelwydydd incwm isel yng Nghymru yn gymwys i dderbyn taliad o £200 er mwyn cadw eu cartrefi yn gynnes yn ystod yr hydref a'r gaeaf.

Daw hyn fel rhan o fuddsoddiad £90m Llywodraeth Cymru yng Nghynllun Cymorth Tanwydd er mwyn cydnabod effaith costau byw cynyddol.

166,000 o aelwydydd a wnaeth dderbyn Taliad Tanwydd Gaeaf o £200 y llynedd. Yn ôl y llywodraeth bydd ymestyn y cynllun yn galluogi i fwy o aelwydydd fod yn gymwys ac fe fydd yn cynnwys y sawl sy'n derbyn budd-dal pobl anabl i gredyd treth plant. 

'Gwneud popeth o fewn ein gallu'

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, fod y llywodraeth yn "gwybod bod llawer o aelwydydd yn teimlo'n bryderus am eu biliau ynni cynyddol, ac felly rydyn ni’n gobeithio y bydd ymestyn Cynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru i lawer yn fwy o bobl yn rhywfaint o gysur yn y cyfnod heriol hwn.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed a gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau eu bod yn gallu ymdopi â'r cyfnod anodd hwn."

Daw hyn wedi i'r Gweinidog gyhoeddi y byddai'r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf 2021/22 yn cael ei ddyblu i £200 yn sgil yr argyfwng costau byw. 

Mae disgwyl i'r costau ynni gynyddu hyd yn oed yn fwy erbyn yr hydref.

Yn ôl Cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru, Claire Morgan, mae Gofalwyr Cymru yn croesawu'r cyhoeddiad "gan ein bod ni wedi gofyn am i'r meini prawf cymhwysedd gael eu hymestyn i gynnwys Lwfans Gofalwr, a’r hen fudd-daliadau a’r rhai cyfrannol eraill i gefnogi'r nifer fwyaf bosibl o ofalwyr di-dâl.

"Mae ein hymchwil yn dangos bod gofalwyr eisoes yn ei chael yn anodd ymdopi'n ariannol, ac mae hyn wedi'i ddwysáu gan yr argyfwng costau byw."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.