Newyddion S4C

Llyfr y Flwyddyn: Cyhoeddi enillwyr categoriau Ffuglen a Barddoniaeth

 Gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2022

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi enillwyr categori Ffuglen Gymraeg a chategori Barddoniaeth yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2022.

Ffion Dafis sydd wedi ennill y wobr am y categori Ffuglen Cymraeg gyda'i nofel Mori, a Merch y llyn gan Grug Muse sydd wedi dod yn fuddugol yn y categori Barddoniaeth.

Mae'r ddwy yn ennill gwobr ariannol o £1,000 yr un yn ogystal â thlws wedi ei ddylunio a'i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones. 

Bydd y ddwy hefyd yn gymwys ar gyfer Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn 2022 sy'n cael ei gyhoeddi nos Iau. 

Mae Mori gan Ffion Dafis yn canolbwyntio ar Morfudd a'i hobsesiwn gyda merch drydanol sy'n gofyn i fod yn ffrind iddi ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Mae Ffion yn enw cyfarwydd yn y maes celfyddydau yng Nghymru wrth actio mewn sawl cyfres deledu megis Amdani a Byw Celwydd. 

merch y llyn ydy ail gyfrol o gerddi Grug Muse o Ddyffryn Nantlle.

Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd yn 2013 cyn cyhoeddi ei chasgliad cyntaf o gerddi, Ar Ddisberod, yn 2017. 

Mae ei gwaith wedi cael ei gyfieithu i'r Almaeneg, Groeg a Latgaleg. 

Llenyddiaeth Cymru sy'n trefnu'r gystadleuaeth, a dywedodd y Cyd-Brif Weithredwr Dros Dro, Leusa Llewelyn, bod y ddwy gyfrol "yn tynnu adlais arwresau a gwrth-arwresau ein chwedlau o’r dyfnderoedd (yn llythrennol yn achos merch y llyn) ac yn eu gosod yn yr unfed ganrif ar hugain i ddod i aflonyddu ein meddyliau.

"Dyma gyfrolau sydd am aros yn y cof am amser maith.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.