Newyddion S4C

Llywodraeth Boris Johnson yn ennill pleidlais o ddiffyg hyder

The Independent 19/07/2022
Boris Johnson HoC ©UK Parliament_Jessica Taylor

Mae Llywodraeth Boris Johnson wedi ennill pleidlais o ddiffyg hyder, 10 diwrnod ar ôl iddo ymddiswyddo fel Prif Weinidog. 

Daeth Mr Johnson o dan bwysau gan weinidogion i gamu lawr, gyda bron i 60 o aelodau'r llywodraeth yn ymddiswyddo wedi cyfnod cythryblus iddo yn wleidyddol. 

Er hyn, fe dderbyniodd Mr Johnson gefnogaeth ei Aelodau Seneddol nos Lun, gan ennill y bleidlais o ddiffyg hyder gyda mwyafrif o 111. 

Fe wnaeth rhif 10 alw'r bleidlais ei hunain wedi iddynt wrthod cynnig y Blaid Lafur am bleidlais o ddiffyg hyder yn Mr Johnson. 

Roedd Llafur wedi galw am bleidlais o ddiffyg hyder er mwyn gorfodi Mr Johnson i ymddiswyddo ar unwaith. Mae wedi dweud y bydd yn aros fel Prif Weinidog tan i arweinydd newydd o'r Blaid Geidwadol gael ei ethol ar 5 Medi. 

Mae disgwyl i Mr Johnson gynnal ei gyfarfod cabinet olaf fel Prif Weinidog ddydd Mawrth. 

Darllenwch fwy yma. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.