Newyddion S4C

Cadeirydd Plaid Cymru'n ymddiswyddo dros benderfyniad am ddyfodol aelod seneddol

Newyddion S4C 18/07/2022
Alun Ffred Jones (llun S4C)

Mae Alun Ffred Jones wedi ymddiswyddo fel cadeirydd Plaid Cymru o achos ei anfodlonrwydd gyda'r ffordd y mae'r blaid wedi delio gyda AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards.

Mae Mr Edwards wedi ail-ymuno gyda'r blaid yn dilyn cyfnod o waharddiad ddwy flynedd yn ôl, ond gydag argymhelliad y dylai barhau fel AS Annibynol.

Fe gafodd Mr Edwards ei wahardd o'r blaid am 12 mis yn 2020 ar ôl derbyn rhybudd gan yr heddlu am ymosodiad.

Cafodd y chwip ei dynnu oddi ar Mr Edwards ar ôl cael ei arestio, a fyth ers hynny mae wedi eistedd fel AS annibynnol yn San Steffan.

Ar ôl iddo dderbyn rhybudd gan yr heddlu dywedodd Mr Edwards ei fod yn "wir ddrwg ganddo" a'i fod yn edifar yr hyn ddigwyddodd "yn fwy na dim arall yn fy mywyd".

Ymddiswyddo

Mae'r argymhelliad y dylai barhau fel AS Annibynol ar ôl ail-ymuno gyda Phlaid Cymru wedi arwain at ymddiswyddiad Alun Ffred Jones.

Dywedodd Plaid Cymru nad oedd y broses fewnol o benderfynu ar aelodaeth Mr Edwards o'r grŵp Seneddol wedi dod i ben.

Mae cyn arwienydd y blaid Leanne Wood wedi dweud y dylai Mr Edwards gael ei wahardd o'r blaid "os ydyn nhw o ddifri am stampio allan misogynistiaeth a thrais yn y cartref."

Daeth gwaharddiad Mr Edwards i ben y llynedd ond nid oedd y blaid am ystyried ei achos hyd nes iddo wneud cais i ailymuno.

Yn ôl datganiad gan y panel disgyblu wnaeth gwrdd fis Mai, roedd yna "gytundeb unfrydol y dylai gwaharddiad Mr Edwards o'r blaid gael ei godi ar unwaith".

Mae Newyddion S4C ar ddeall bod Pwyllgor Gwaith y blaid wedi argymell na ddylai'r AS gael dychwelyd i grwp seneddol y blaid.

Mae hyn yn golygu y bydd yn parhau fel AS Annibynol, er ei fod yn aelod o'r blaid unwaith eto.

Mae Newyddion S4C hefyd yn deall bod Alun Ffred Jones yn anghytuno gyda'r penderfyniad ac wedi ymddiswyddo fel cadeirydd.

Dywedodd Mr Edwards y byddai'n "trefnu cwrdd ac aelodaeth lleol y blaid dros yr wythnosau nesaf cyn neud unrhyw benderfyniad ar fy nyfodol gwleidyddol neu unrhyw sylw pellach."

Cadeirydd dros dro

Mae Beca Brown, cynghorydd o Wynedd nawr yn gadeirydd dros dro,  hyd nes eu bod yn ethol un newydd yn eu cynahdledd yn yr Hydref.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru nad yw’r “broses fewnol o bedernfynu ar aelodaaeth Mr Edwards o'r grwp Seneddol wedi dod i ben.

"Mae Plaid Cymru eisiau diolch i Alun Ffred Jones am ei holl flynyddoedd o deyrngarwch a gwasanaeth i'r blaid.

"Mae Alun Ffred wedi cadeirio Pwyllgor Gwaith y blaid efo ymroddiad a phroffesiynoldeb drwy'r amser".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.