Newyddion S4C

Y cyn-chwaraewr rygbi Gary Samuel wedi marw yn 78 oed

18/07/2022
Gary Samuel

Mae'r cyn-chwaraewr rygbi Gary Samuel wedi marw yn 78 oed yn dilyn cyfnod byr o salwch. 

Yn wreiddiol o Ddyffryn Aman, fe wnaeth y mewnwr gynrychioli Caerdydd 112 o weithiau rhwng 1965 a 1976. 

Bu'n rhan o garfan gyntaf Caerdydd i fynd ar daith dramor, a hynny i Dde Affrica yn 1967. 

Yn ddiweddarach yn ei yrfa symudodd i Bontypridd yng nghanol yr 1970au, gan sgorio saith cais mewn 50 gêm dros y clwb. 

Ar ôl ymddeol o'r gamp, fe wnaeth ddychwelyd i Gaerdydd fel hyfforddwr, gyda'r clwb yn profi llwyddiant wrth ennill Cwpan Schweppes. 

Wrth dalu deyrnged iddo, dywedodd y darlledwr Huw Llywelyn Davies yr oedd Gary yn "un o gymeriadau mawr y byd." 

"Roedd o'n gwmniwr gwych, yn llawn direidi, ac wedi cyfrannu mewn cymaint o feysydd gwahanol." 

"Oedd e'n enwog am ei dalent fel chwaraewr rygbi wrth gwrs, ond fe naeth ei gyfraniad mawr yn ei gymuned hefyd." 

"Roedd e mor boblogaidd gan bawb ac fe fydd na bwlch mawr ar ei ôl e yn ei filltir sgwar ac ymhell a thu hwnt o hynny hefyd." 

Mae'n gadael ei wraig Bethan, a'i fab Rhodri. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.