Gareth Bale yn chwarae ei gêm gyntaf i LAFC
Daeth Gareth Bale oddi ar y fainc i chwarae ei gêm gyntaf i LAFC yn erbyn Nashville neithiwr.
Chwaraeodd Bale 20 munud ola'r gêm wrth i LAFC ennill 2-1.
Er nad oedd gan Bale gyfle i wneud llawer o gyfraniad, fe wnaeth ôl-sodliad gyda'i gyffyrddiad cyntaf, gan gyffroi cefnogwyr LAFC.
Not a bad first touch, @GarethBale11. 👀#NSHvLAFC 1-2 pic.twitter.com/7tUYFg8y2D
— LAFC (@LAFC) July 18, 2022
Fe wnaeth capten Yr Eidal, Georgio Chiellini, hefyd chwarae ei gêm gyntaf i'r clwb neithiwr.
Mae LAFC ar frig y gynghrair gyda 42 pwynt yn dilyn eu buddugoliaeth neithiwr, pwynt uwchben Austin yn yr ail safle.
Dywedodd Gareth Bale ar ôl y gêm: "Roedd hi'n deimlad gwych i chwarae. Mi oeddwn ni yn awyddus iawn i ddod ar y cae ers yr hanner cyntaf. Unwaith oeddwn i wedi dod oddi ar y fainc, roeddwn i eisiau helpu'r tîm. Roedd hi hefyd yn bwysig i mi wella fy ffitrwydd."
Llun: LAFC