Newyddion S4C

Elfyn Evans yn cipio pedwar cymal cyntaf Rali Estonia

15/07/2022
Elfyn Evans

Mae Elfyn Evans wedi cipio pedwar cymal cyntaf Rali Estonia wrth iddo edrych i godi i'r brig yn y bencampwriaeth.

Roedd Evans wedi ennill pedwar cymal yn olynol yn Tartu gan gynyddu'r bwlch dros Tänak yn yr ail safle i 12.5 eiliad. 

Mae hyn yn rhoi Evans mewn sefyllfa dda i weddill y rali, sydd yn dod i ben ddydd Sul.

Mae 20 cymal i fynd yn Estonia, a bydd Evans yn edrych i adeiladu ar y bwlch o 12.5 eiliad mae wedi ei greu dros y gyrwyr eraill, yn enwedig yn y cymal olaf lle mae pwyntiau ychwanegol yn cael eu gwobrwyo i'r gyrwyr cyflymaf.

Mae Evans, sydd yn gyrru i Toyota, yn y chweched safle yn y bencampwriaeth gyda chwech rali i fynd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.