Dynes leol 24 oed wedi marw mewn digwyddiad padlfyrddio yng Nghonwy
Mae dynes leol 24 oed wedi marw mewn digwyddiad padlfyrddio yng Nghonwy nos Iau.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad am 22:14 yn dilyn adroddiadau fod tri padlfyrddiwr mewn trafferthion yn y dŵr ger Marina Conwy.
Cafodd dau unigolyn eu cludo i Ysbyty Gwynedd ond bu farw un yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Mae'r crwner wedi ei hysbysu ac mae swyddogion arbenigol yn cynorthwyo teuluoedd y rhai sydd wedi eu heffeithio.
Dywedodd Jonathan Williams o Heddlu Gogledd Cymru fod tri o bobl wedi eu hachub o'r dŵr:
"Cludwyd dau i Ysbyty Gwynedd ym Mangor ond yn anffodus er gwaethaf ymdrechion gorau pawb bu un farw yn yr ysbyty, merch 24 oed o'r ardal lleol i Gonwy.
"Da ni'n meddwl fod y bobl wedi dod yma i ymlacio a mwynhau y dŵr ond yn anffodus mae un wedi mynd i drafferth a cael eu tynnu lawr.
"Da ni'n gofyn i bobl fod yn ddiogel, yn enwedig hefo'r tywydd yn cynhesu, mae mor hawdd i bethau fynd o'i le."
Cafodd Gwylwyr y Glannau o Fangor a Llandudno eu galw i'r digwyddiad, ynghyd â bad achub yr RNLI ei o Gonwy, a hofrennydd achub o Gaernarfon.
Dywedodd llefarydd o Wasanaeth Ambiwlans Cymru fod pedwar ambiwlans a dau gerbyd argyfwng wedi cynorthwyo yn ystod y digwyddiad.
Llun: RNLI Conwy