Dyn yn yr ysbyty wedi ymosodiad difrifol yn Abertawe

15/07/2022
Llun o gar heddlu.

Mae dyn 48 oed yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn ymosodiad yng Nghastell-nedd.

Dywedodd yr heddlu fod ymosodiad difrifol wedi digwydd yng nghanol y dref yn ystod oriau man bore Gwener.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad o gwmpas 12.50 y bore ger clwb nos ‘The Arch’ ar Commercial Street.

Mae rhan o’r stryd wedi'i chau tra bod yr  ymchwiliad yn parhau.

Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i unrhyw un a welodd yr ymosodiad neu sydd â gwybodaeth a fedrai fod o gymorth i gysylltu drwy’r wefan neu drwy ffonio 101 gan ddefnyddio cyfeirnod 2200236046.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.