Y DU yn paratoi am dywydd eithafol

16/07/2022

Y DU yn paratoi am dywydd eithafol

Mae gwasanaethau cyhoeddus ar hyd y DU yn paratoi am dywydd eithafol dros y diwrnodau nesaf.

Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi cyhoeddi "argyfwng cenedlaethol" gyda’r Rhybudd Coch cyntaf erioed wedi ei gyhoeddi.

Dywedodd yr asiantaeth y gall pobl gymryd camau syml i gadw’n ddiogel a lleihau'r nifer o farwolaethau yn y tywydd poeth.

Mae disgwyl i dymereddau gyrraedd 40C mewn mannau o Loegr yr wythnos nesaf.

Mae’r Swyddfa Dywydd eisoes wedi cyhoeddi Rhybudd Oren am wres eithafol ar gyfer dydd Sul a dydd Llun yng Nghymru.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cynghori pobl i deithio dim ond os yw'n hanfodol i wneud.

Disgwylir y bydd gwasanaethau ar hyd y rhwydwaith yn cael eu heffeithio gyda rheoli cyflymdra mewn mannau i osgoi’r risg o gledrau’n gordwymo.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ail-drefnu apwyntiadau brechu Covid er mwyn lleihau’r straen ar y GIG wrth i gymdeithasau a gwasanaethau led led Cymru baratoi am dymeraddau uchel.

Mae hi'n hollbwysig amddiffyn yr henoed rhag tywydd poeth eithafol gan nad ydyn nhw o hyd yn "deall y risg", yn ôl un sy'n gweithio mewn cartref gofal. 

Mae Paul Downey yn gweithio yng nghartref gofal Marbryn yng Nghaernarfon, ac mae ganddyn nhw drefniadau eisoes yn eu lle er mwyn amddiffyn yr henoed yn ystod y cyfnod o wres eithafol.

"'Dan ni'n gweithio efo Cyngor Gwynedd ar asesiad risg a wedyn 'di bod yn gweithio ar sut fedra ni lleihau y risg i'r cleifion sy'n byw yn y cartra."

Dywedodd Paul mai un o'r ffyrdd hawsaf i leihau'r risg yma ydy "yfed digon o ddŵr" a cheisio "cadw oddi wrth te a coffi oherwydd bod heina yn diuretic a ma' nhw'n neud rywun yn dehydrated."

'Ddim yn deall y risg'

Yn ôl Paul, mae yna "fwy o risg i pobl sy'n byw adra yn independent. Ma' 'na lot fawr o bobl dyddia yma yn cal gofal adra yn cartrefi ei hunain a ma'n dibynnu ar be 'di pecyn gofal rywun a pha mor aml ma gofalwyr yn mynd i'r tŷ yn checkio ar yr unigolyn.

"Does 'na neb yna trw'r adag i sicrhau bod nhw'n yfad digon."

"Tydi henoed ddim o hyd yn dalld y risg o gwres a'r haul a tydyn nhw ddim yn teimlo fo fel fysa chi a fi."

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi ymestyn y cyfnod ar gyfer y Rhybudd Oren i ddydd Mawrth.

Gyda thymereddau yn disgwyl i godi'n uwch na 30C,  mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) a'r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol wedi cyhoeddi rhybuddion eu hunain ynglŷn â'r tywydd sydd i ddod. 

Mae ICC wedi rhybuddio bod yr amodau crasboeth yn cynyddu'r risg o gyflyrau iechyd yn ymwneud â gwres llethol.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.