Teyrnged teulu i fachgen 'poblogaidd a hapus' fu farw mewn chwarel

14/07/2022
Myron Davies.jpg

Mae teulu bachgen 15 oed fu farw ar ôl disgyn mewn chwarel ym Mhont-y-pŵl wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Myron Davies yn sgil y digwyddiad yn chwarel Abersychan ar 6 Gorffennaf.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu ei fod yn "nai, yn ŵyr ac yn gefnder hyfryd, ac roedd pawb yn ei garu" ac yn "fachgen poblogaidd ac roedd yr athrawon a’r disgyblion yn hoff ohono.

“Fel y gallwch ddychmygu, fel ei deulu rydyn ni wedi torri’n calonnau, ac mae ei holl ffrindiau wedi’u llorio, wrth i ni geisio dod drwyddi bob dydd ers clywed y newyddion torcalonnus yma.

“Bydd ei holl ffrindiau a’i deulu’n gweld ei eisiau.

“Mae’n ddirgelwch beth ddigwyddodd y diwrnod trasig yma. Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth am beth ddigwyddodd, dewch i ddweud wrthym ni. Fel mam, mae’n rhaid i fi wybod beth ddigwyddodd i fy mab.

“Hoffen ni hefyd ddiolch i bawb am eu negeseuon caredig a’u cymorth yn y cyfnod torcalonnus yma.”

Fe gafodd merch 14 oed o Flaenafon, a wnaeth hefyd ddisgyn i'r chwarel, ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ac mae'n parhau yno mewn cyflwr difrifol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.