Streic reilffyrdd arall wedi ei threfnu ar gyfer diwedd mis Gorffennaf

Fe fydd gyrwyr trenau o wyth cwmni rheilffyrdd yn mynd ar streic ddiwedd mis Gorffennaf wrth i'r undeb llafur Aslef gyhoeddi cyfnod o weithredu diwydiannol.
Daw'r streic ar 30 Gorffennaf yn sgil ffrae ynglŷn â thal wrth i weithwyr alw am gynnydd mewn cyflog.
Mae trafodaethau rhwng yr undebau a'r cwmnïau rheilffyrdd wedi dod i ben gyda gweithwyr yn honni nad oedd y cynnig diweddaraf yn ddigon yn sgil yr argyfwng costau byw.
Daw cyhoeddiad Aslef lai na 24 awr ar ôl i undeb yr RMT gyhoeddi y bydd gweithwyr Network Rail yn streicio ar 27 Gorffennaf.
Darllenwch fwy yma.