Mwy o rybuddion am dywydd poeth eithafol yng Nghymru
Mae rhagor o rybuddion wedi'u cyhoeddi i bobl Cymru gymryd gofal yn ystod y cyfnod o dywydd poeth eithafol dros y dyddiau nesaf.
Mae'r Swyddfa Dywydd eisoes wedi cyhoeddi Rhybudd Oren am wres eithafol ar gyfer dydd Sul a dydd Llun, ond mae’r cyfnod bellach wedi'i ymestyn i ddydd Mawrth.
Gyda thymereddau yn disgwyl i godi'n uwch na 30C, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) a'r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol wedi cyhoeddi rhybuddion eu hunain ynglŷn â'r tywydd sydd i ddod.
Mae ICC wedi rhybuddio bod yr amodau crasboeth yn cynyddu'r risg o gyflyrau iechyd yn ymwneud â gwres llethol.
Dywedodd Dr Sarah Jones, ymgynghorydd mewn iechyd amgylcheddol: "Ni ddylwn drin hyn fel diwrnod poeth arall."
Mae ICC yn annog pobl i wneud newidiadau i'w trefn arferol er mwyn osgoi'r gwres, gan gynnwys peidio gwneud unrhyw weithgareddau dwys neu ymarfer corff yn ystod canol y dydd a chau ffenestri a llenni i gadw ystafelloedd yn oerach.
Yn ogystal â neges ICC, mae Dr Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, hefyd wedi cyhoeddi rhybudd ynglŷn â'r tywydd eithafol.
Mae Dr Jones yn annog pobl i gadw golwg ar bobl fwy bregus fel plant, pobl hyn a rhai gyda chyflyrau iechyd sydd yn medru cael eu heffeithio'n waeth gan y tywydd poeth.
"Nid yw’r Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi rhybuddion am wres eithafol heb ystyriaeth ddwys ac mae angen cymryd y risgiau iechyd posib o ddifri," meddai.
"Mae’r galw ar y Gwasanaeth Iechyd a’r gwasanaethau brys yng Nghymru eisoes yn uchel felly drwy gymryd gofal ychwanegol i ddiogelu ein hunain a’n teuluoedd, gallwn ni gyd helpu i leihau’r pwysau ar y gwasanaethau hanfodol hyn."
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr o awgrymiadau i leihau effeithiau'r gwres gan gynnwys yfed digon o hylif, cynllunio ymlaen llaw ac aros yn y cysgod, ac i beidio gadael plant, pobl mewn oed neu anifeiliaid yn y car.
Maent hefyd wedi cyhoeddi rhybudd yn erbyn nofio mewn dŵr agored fel afonydd a llynnoedd.