Dau AS yn cael eu taflu allan o Dŷ’r Cyffredin

Mae dau AS wedi cael eu taflu allan o Dŷ’r Cyffredin ar ôl galw am refferendwm annibyniaeth i’r Alban.
Fe wnaeth y Llefarydd, Syr Lindsay Hoyle, orchymyn fod y ddau AS yn gadael y siambr yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog.
Mae Kenny MacAskill (Dwyrain Lothian) a Neale Hanvey (Kirkcaldy a Cowdenbeath) yn aelodau o'r blaid Alba.
Ar ddechrau’r sesiwn, roedd modd clywed Mr MacAskill yn dweud “mae angen refferendwm arnom”, cyn i ASau eraill ddechrau gweiddi drosto.
Yn dilyn cais gan Syr Lidsay i dawelu, fe wrthododd y ddau AS i gymryd eu seddi'n dawel, gan arwain at y gorchymun i adael:
“Neale Hanvey, rydw i nawr yn eich enwi chi a Kenny MacAskill ac yn eich gorchymyn i adael y siambr hon."
Darllenwch fwy yma.