
Dolgellau yn barod am Sesiwn Fawr arall
Dolgellau yn barod am Sesiwn Fawr arall
Mae un o ddigwyddiadau cerddorol mwyaf Cymru yn ôl y penwythnos hwn ac yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed.
Cafodd Sesiwn Fawr Dolgellau ei chynnal am y tro cyntaf yn 1992 ac yn ôl Guto Dafydd, Cadeirydd Pwyllgor Sesiwn Fawr Dolgellau, mae pawb yn y dref yn edrych ymlaen at y bwrlwm wedi dwy flynedd o ŵyl rithiol.
“’Da ni’n edrych ymlaen at gael dathlu 30 mlynedd, yn enwedig ar ôl dwy flynedd o seibiant bod ni’n cael dathliad sy’n deilwng. A ‘da ni’n edrych ymlaen at wahodd pawb nôl i Ddolgellau," meddai wrth Newyddion S4C.
“Mae yna elfennau newydd eleni, yn bersonol dwi’n edrych ymlaen at weld y bandiau yng Ngwesty’r llong ac yn y clwb Rygbi.
“Mae pawb yn edrych ymlaen ac yn falch bod yr ŵyl yn ôl. Mae'n ddylanwad positif ar y dre o ran sgil effaith economaidd, mae'n cyfrannu yn sylweddol i economi’r dre.
“Fe gei di drafferth ffeindio unrhyw fath o lety sydd ar gael yn ystod y penwythnos a dwi’n siŵr bydd lot o’r tafarndai a bwytai yn hapus bod y Sesiwn yn ôl ac yn edrych ymlaen at fanteisio ar y dorf."
Amrywiaeth o gerddoriaeth
Mae’r ŵyl wedi ei chynnal mewn sawl lleoliad yn y dref, ac eleni Gwesty’r Ship fydd yn croesawu’r perfformwyr a’r cyhoedd.
Ond dros y penwythnos bydd adloniant gan 54 o fandiau gwahanol i’w glywed ar draws naw llwyfan.

Mae’r ŵyl yn rhoi llwyfan i gymysgedd o gerddoriaeth gwerin, roc a rhyngwladol ond mae hefyd yn cynnig sgyrsiau diwylliannol a pherfformiadau comedi.
Ymysg y perfformiadau mae Bwncath, Tara Bandito, Swnami a Bwncath.
Roedd yn rhaid i’r trefnwyr ryddhau mwy o docynnau i ateb y galw, ac erbyn hyn dim ond nifer bychan o docynnau sydd ar gael i rai digwyddiadau.
Ychwangeodd Guto Dafydd: “Dwi’n teimlo fod yr awch am ddigwyddiadau byw yno, ac mae hynny wedi ei adlewyrchu yng ngwerthiad arbennig y tocynnau.
“Fu’n ni ddim yn segur yn ystod y ddwy flynedd i ffwrdd, gawson ni ddwy ŵyl rithiol felly roedd hynny yn gyfle i ni barhau i gynnig adloniant. Ond roedd y meddwl yn crwydro, felly roedd hefyd yn gyfle i edrych ymlaen.
“Ma’ unrhyw ŵyl gwerth ei halen eisiau datblygu ac ehangu.”

Mae Sesiwn Fawr Dolgellau yn ŵyl deuluol ac eleni bydd ‘Pentre Plant’ yng nghanol y dref.
Am y tro cyntaf eleni mae cyngerdd arbennig yn cael ei gynnal yn Eglwys Santes Fair i gloi'r ŵyl nos Sul.
“Mae yn lleoliad unigrwydd ac yn gyngerdd gwahanol i’r hyn sydd i’w ddisgwyl nos Sadwrn a nos Sul sy’n cynnwys perfformiadau gan casi Wyn, Beth celyn a mwy,” meddai Guto Dafydd.
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng Gorffennaf 15 a 17. Mae modd cael rhagor o wybodaeth ar wefan Sesiwn Fawr.