Caniatáu adolygiad barnwrol i benderfyniad i agor ysgol Saesneg ym Mhontardawe

Mae cais am adolygiad barnwrol i benderfyniad awdurdod lleol i agor ysgol cyfrwng Saesneg newydd ym Mhontardawe wedi cael ei ganiatáu.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn bwriadu cau tair ysgol gynradd cyfrwng Saesneg yn ardal Pontardawe, a sefydlu un ysgol Saesneg ar safle Parc Ynysderw.
Mae hyn yn golygu y byddai ysgolion cynradd Alltwen, Godre'r Graig a Llangiwg yn cau, ac mae'r penderfyniad wedi creu "cryn ofid" i fudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg.
Mae cais y mudiad am adolygiad barnwrol wedi ei ganiatáu gan yr Uchel Lys.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cenedlaethol y mudiad, Elin Maher: “Rydym yn croesawu penderfyniad yr Uchel Lys i ganiatáu inni fwrw ymlaen hefo’r adolygiad barnwrol, ac rydym yn edrych ymlaen at dderbyn penderfyniad terfynol y Llys,” meddai.
“Mae’r sefyllfa wedi achosi cryn ofid inni fel mudiad, ac yn ehangach yn y gymuned ym Mhontardawe, yn arbennig gan fod y Cyngor eu hunain yn cydnabod fod yr ardal yn un o bwysigrwydd ieithyddol arwyddocaol.”
Darllenwch fwy gan Golwg360 yma.