Gareth Bale yn gobeithio chwarae yn Ewro 2024 a thu hwnt

Mae Gareth Bale yn dweud fod ganddo "nifer o flynyddoedd i ddod" ar y cae pêl-droed wedi iddo ymuno a Los Angeles FC.
Wrth siarad â'r wasg am y tro gyntaf ers gadael Real Madrid, dywedodd capten Cymru mai ei obaith yw chwarae yn Ewro 2024 a thu hwnt.
Mae'r datganiad yn tawelu amheuon y bydd Bale yn ymddeol yn dilyn y Cwpan y Byd yn Qatar eleni.
"Dwi heb ddod yma am chwech neu 12 mis, dwi wedi dod yma am gyfnod mor hir ag sy'n bosib," meddai.
"Dwi eisiau gwneud argraff ar y gynghrair yma. Dyw hwn ddim yn rhywbeth byr dymor. Mae'n rhoi cyfle i fi barhau tan yr Ewros, a falle yn bellach."
Mae Bale wedi arwyddo cytundeb blwyddyn o hyd gyda LAFC, gyda'r opsiwn o aros yn y Unol Daleithiau ar gyfer tymor 2024 hefyd.
Darllenwch fwy yma.