Newyddion S4C

Wyth cwmni trên yn cyhoeddi streiciau dros anghydfod tâl

11/07/2022
Trenau

Mae undeb Aslef wedi cyhoeddi bydd gyrwyr trên o wyth cwmni yn streicio dros anghydfod  tâl.

Yn gynharach ddydd Llun fe gyhoeddodd gyrwyr o 4 cwmni eu bod nhw'n bwriadu streicio, cyn i yrwyr o 4 cwmni arall ychwanegu eu henwau at y cyhoeddiad yn ddiweddarach yn y dydd.

Mae gyrwyr trên Aslef yn yr Alban wedi cytuno ar godiad cyflog o 5%, sydd wedi rhoi diwedd ar amserlen ostyngol dros y misoedd diwethaf.

Nid yw dyddiadau'r gweithredu diwydiannol wedi eu cyhoeddi eto, ond mae'n disgwyl iddynt effeithio ar drefniadau Gemau'r Gymanwlad sy'n cymryd lle ym Mirmingham mis nesaf.

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.