Jamie Wallis yn euog o fethu â stopio ar ôl gwrthdrawiad

JAMIE WALLIS

Mae’r AS Ceidwadol, Jamie Wallis wedi ei gael yn euog o yrru heb ofal a sylw digonol, ac o fethu â stopio yn dilyn gwrthdrawiad ffordd fis Tachwedd y llynedd.

Dywedodd Heddlu'r De fod y gwrthdrawiad wedi digwydd yn ardal Llanfleiddan, ger Y Bont-faen ym Mro Morgannwg.  

Clywodd y Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun fod Wallis wedi gadael y car mewn sefyllfa beryglus yn dilyn y gwrthdrawiad gan gerdded i ffwrdd mewn sgert mini lledr du, teits a sodlau uchel.

Roedd Wallis wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Ym mis Mawrth, Mr Wallis oedd yr AS cyntaf i ddod allan fel person trawsryweddol.

Cafodd Mr Wallis ei ethol fel AS Pen-y-bont ar Ogwr yn etholiad cyffredinol 2019, gan ddisodli sedd oedd wedi bod yn nwylo Llafur ers tri degawd.

Darllenwch y stori'n llawn yma. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.