Cyn-bennaeth F1 Bernie Ecclestone i'w gyhuddo o dwyll

Bydd cyn-bennaeth F1, Bernie Ecclestone, yn cael ei gyhuddo o dwyll gwerth dros £400 miliwn, yn dilyn ymchwiliad gan yr adran gyllid a thollau.
Mae'r adran yn honni bod y biliynydd 91 oed wedi ceisio osgoi talu trethi ar ei asedau dramor.
Mae Gwasanaeth Erlyn Y Goron wedi awdurdodi'r cyhuddiad yn erbyn Mr Ecclestone.
Ac mae disgwyl i'r achos llys gael ei gynnal fis Awst.
Daw hyn wythnos yn unig wedi iddo ymddiheuro am ddweud y byddai'n fodlon "cymryd bwled" dros Arlywydd Rwsia Vladimir Putin.
Darllenwch fwy yma.