Dynes yn marw yn Sir y Fflint o 'achosion naturiol'
09/07/2022
Heddlu.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi bod dynes a fu farw ym Mwcle ddydd Sadwrn wedi marw o achosion naturiol.
Mae’r dyn gafodd ei arestio bellach wedi ei ryddhau yn ddi-gyhuddiad ac mae’r crwner wedi cadarnhau fod y ddynes wedi marw o ganlyniad i achosion naturiol.
Daeth yr heddlu o hyd i gorff y ddynes fore dydd Sadwrn ar ôl cael eu galw i gyfeiriad yn y dre.