Newyddion S4C

Rhybudd i gerddwyr mynydd yn y tywydd poeth

09/07/2022
Cerddwyr ar Yr Wyddfa

Mae criwiau achub mynydd wedi rhybuddio cerddwyr i gymryd gofal yn y tywydd poeth dros  y penwythnos.

Gyda’r tywydd braf yn sicr o ddenu miloedd o ymwelwyr i Eryri mae Tîm Achub Mynydd Llanberis wedi cyhoeddi cyngor diogelwch hanfodol i bawb sy’n mentro i’r mynyddoedd.

Mae’r cyngor yn cynnwys dechrau’n gynnar i osgoi’r gwres a chario digon o ddŵr ac offer addas ar gyfer y daith.

Mae het hefyd yn bwysig er mwyn osgoi pelydrau’r haul.

Mewn datganiad dywedodd y tîm, sy'n gyfrifol am ardal Yr Wyddfa: “Mae dechrau eich taith yn gynnar i osgoi'r haul poethaf am hanner dydd yn rhywbeth syml fedrwch chi ei wneud.  Gwisgwch ddillad gyda llewysau hir.  Mae ychwanegu het hefyd yn syniad da. Nid yw un botel o ddŵr yn ddigon cofiwch. Rydym yn cynghori o leiaf dau litr o ddŵr.”

Mae’r criwiau hefyd wedi gofyn i gerddwyr fod yn ystyrlon os ydyn nhw yn gweld achubwyr mynydd wrth eu gwaith.

Ychwanegodd y tîm: “Os ydych chi’n ein gweld ni yn delio gyda digwyddiad yna rhowch ddigon o le i ni a’r hofrennydd os oes rhaid. Cadwch i symud os fedrwch chi oni bai bod aelod o’r tîm yn gofyn i chi aros ac yna byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda."

Llun: Tîm Achub Mynydd Llanberis

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.