Syr Mark Rowley yn olynu Cressida Dick fel Comisiynydd Heddlu'r Met

Mae'r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi fod Syr Mark Rowley wedi ei benodi fel Comisiynydd newydd Heddlu'r Met.
Mae'r cyn brif swyddog gwrth terfysgaeth 57 oed yn olynu Cressida Dick, a ymddiswyddodd ym mis Chwefror.
Bu rhaid i Ms Dick gamu lawr wedi i Faer Llundain, Sadiq Khan, alw am newidiadau yn yr arweinyddiaeth yn sgil beirniadaeth o hiliaeth a rhywiaeth o fewn y llu.
Roedd Ms Dick eisoes dan bwysau yn dilyn nifer o sgandalau cyhoeddus fel achos llofruddiaeth Sarah Everard.
Daw penodiad Syr Mark llai na phythefnos ar ôl i Heddlu'r Met gael eu rhoi o dan fesurau arbennig yn sgil y feirniadaeth ddiweddar.
Darllenwch fwy yma.