Newyddion S4C

Rygbi: Cymru'n ceisio cadw'r gyfres yn fyw yn erbyn De Affrica

09/07/2022

Rygbi: Cymru'n ceisio cadw'r gyfres yn fyw yn erbyn De Affrica

Fe fydd Cymru yn gobeithio cadw gobeithion cyfres yr haf yn erbyn De Affrica yn fyw wrth deithio i Bloemfontein ar gyfer yr ail brawf ddydd Sadwrn. 

Mae Cymru ar ei hôl yn dilyn y prawf cyntaf yn Pretoria gyda'r golled dorcalonnus yn eiliadau olaf y gêm. 

Roedd Cymru 15 pwynt ar y blaen ar yr egwyl yn dilyn perfformiad hanner cyntaf arbennig yn Stadiwm Loftus Versfeld. 

Ond fe wnaeth disgyblaeth wael galluogi'r Springboks i reoli'r ail hanner, gyda Damian Willemse yn sgorio cic gosb gyda chic olaf y gêm i sicrhau buddugoliaeth i'r tîm cartref. 

Bydd tîm Wayne Pivac yn gobeithio dysgu o'u camgymeriad gan ail-greu'r ymdrech anferthol o'r prawf cyntaf i herio pencampwyr y byd i'r eithaf unwaith eto. 

Ond fe fydd y dynion mewn coch yn wynebu tîm hollol wahanol i'r hyn oedd ar y cae yn Pretoria benwythnos diwethaf. 

Mae hyfforddwr y Sprinkboks, Jacques Nienaber, wedi gwneud 14 newid i'r tîm buddugol yn y prawf cyntaf. Dim ond yr ail-rheng Eben Etzebeth sydd yn cadw ei le yn y tîm cychwynnol. 

Ni fydd cymaint o newidiadau yn llenwi Cymru gyda hyder yn anffodus, gan ei fod yn pwysleisio'r dyfnder sydd gan y Springboks yn eu carfan. 

Gall De Affrica alw ar gewri megis Pieter-Steph du-Toit, Evan Roos, ac ennillydd Cwpan y Byd, Handre Pollard i ddylanwadu ar y chwarae. 

Mae Wayne Pivac wedi bod yn fwy ceidwadol gyda'r newidiadau i'w dîm. Dim ond un newid sydd i'r tîm chwaraeodd yn Pretoria, gydag Alex Cuthbert yn cymryd lle Josh Adams ar yr asgell. 

Bydd Pivac yn gobeithio y bydd chwaraewyr fel Louis Rees-Zammit, Tommy Reffell a Will Rowlands yn gallu ail-adrodd eu perfformiadau campus yn y prawf cyntaf er mwyn dod yn gyfartal yn y gyfres. 

Gyda llai na 18 mis tan gystadleuaeth Cwpan y Byd yn Ffrainc, bydd Cymru yn gobeithio dangos i'r byd eu bod yn medru cystadlu gyda'r goreuon. 

Uchafbwyntiau De Affrica v Cymru - ar S4C am 21:00 ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.