Dyn yn cyfaddef achosi marwolaeth merch 19 oed drwy yfed a gyrru

Mae dyn a laddodd merch yn ei harddegau wedi derbyn rhybudd ei fod yn wynebu cyfnod dan glo.
Fe ymddangosodd Marcus Pasley, 26, o Llandysilio-yn-Iâl ger Llangollen o flaen Llys y Goron Yr Wyddgrug wedi ei gyhuddo o achos marwolaeth Abby Hill, 19 oed, drwy yrru'n ddiofal dan ddylanwad alcohol.
Plediodd Pasley yn euog i'r cyhuddiad ac fe ddywedodd y Barnwr Rhys Rowlands wrtho ei bod hi'n fater o "ba mor hir" fydd ei ddyfarniad.
Cafodd Miss Hill ei chludo i Ysbyty Maelor yn Wrecsam ychydig wedi'r gwrthdrawiad ar 3 Gorffennaf 2021.
Bu farw ar 5 Gorffennaf yn Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke.
Fe fydd Pasley yn cael ei ddedfrydu ar 29 Gorffennaf.
Darllenwch fwy yma.