Achosion Covid-19 yn codi mwy na 40% mewn wythnos yng Nghymru
Mae nifer yr achosion o Covid-19 yng Nghymru wedi codi mwy na 40% mewn wythnos yng Nghymru, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Mae amcangyfrif y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos fod 149,700 wedi profi'n bositif am Covid-19 yn yr wythnos hyd at 30 Mehefin.
Mae hyn yn gyfystyr â 4.93% o'r boblogaeth, neu o gwmpas un ymhob 20 o bobl.
Y gred yw bod y cynnydd yn cael ei achosi gan amrywiolion Omicron BA.4 a BA.5.
Mae nifer yr achosion wedi bod ar gynnydd ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae gan un o bob 25 o bobl yn Lloegr Covid-19, un ymhob 19 o bobl yng Ngogledd Iwerddon a thua un o bob 17 person yn Yr Alban.
'Ton newydd o heintiau'
Yn ymateb i'r cynnydd mewn achosion, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, bod y wlad "yng nghanol ton newydd o heintiau, a achosir gan yr is-deipiau BA.4 a BA.5 o’r amrywiolyn omicron.
"Mae rhai ysbytai wedi gwneud y penderfyniad anodd i gyfyngu ar ymweliadau i atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhlith cleifion a staff; mae eraill yn gofyn i bob ymwelydd wisgo gorchudd wyneb."
Er nad ydy'r llywodraeth yn gwneud gorchuddion wyneb yn orfodol mewn lleoliadau iechyd a gofal, maent yn annog y defnydd ohonynt.
"Nid ydym yn gwneud gorchuddion wyneb yn orfodol mewn lleoliadau iechyd a gofal, ond byddwn yn annog pawb i wisgo un os ydynt yn ymweld â lleoliad gofal iechyd a byddwn hefyd yn gofyn i bobl ystyried gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do gorlawn, gan fod achosion o’r coronafeirws yn uchel iawn ar hyn o bryd."