
Disgwyl cynnydd mewn niferoedd heintiadau Covid yn y ffigyrau diweddaraf

Disgwyl cynnydd mewn niferoedd heintiadau Covid yn y ffigyrau diweddaraf
Mae disgwyl cynnydd mewn niferoedd heintiadau Covid-19 yn y ffigyrau diweddaraf sydd yn cael eu rhyddhau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ddydd Gwener.
Wythnos diwethaf, fe wnaeth ffigyrau'r ONS ddangos bod nifer yr achosion yng Nghymru wedi gweld cynnydd o 35% dros saith diwrnod.
Ar gyfer yr wythnos hyd at 24 Mehefin, fe wnaeth 106,000 o bobl profi'n bositif am Covid-19, sydd yn cyfateb i un ymhob 30 o'r boblogaeth.
O ganlyniad i'r cynnydd mewn achosion, mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru bellach wedi ail-gyflwyno rheolau mygydau ar safleoedd ysbytai.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi ail-gyflwyno mesurau llymach fyth, gan wahardd rhan fwyaf rhag ymweliadau yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.
Fe fydd yr ONS yn rhyddhau'r data diweddaraf ar achosion Covid-19, gyda nifer yn pryderu y bydd achosion yn parhau i gynyddu fel rhan o don newydd.
Effeithiau Covid hir
Mae pryderon hefyd wrth i rai rybuddio dros yr effeithiau hir dymor gall ei achosi gan Covid-19.
Un o'r pryderon fwyaf yw effeithiau Covid hir. Maen gyflwr sydd yn effeithio ar rhwng 10% a 25% o bobl sydd yn dal yr haint.
Un sydd yn profi symptomau Covid hir yw Leanne Lewis, a wnaeth ddal Covid-19 am y tro cyntaf ym mis Hydref 2020.

Ers hynny, dim ond ychydig o fisoedd mae Leanne wedi medru gweithio oherwydd ei chyflwr.
"Mae dwylo fi ac mae traed fi, maen nhw jyst yn lockio yn y bore," meddai.
"Dwi’n methu symud bysedd fi, traed fi. Weithiau dwi’n methu codi peth cynta’n y bore."
Bellach, mae Leanne yn pryderu am y dyfodol wedi i'r Gwasanaeth Iechyd roi'r gorau i dalu cyflogau llawn gweithwyr sydd â Covid hir.
Ymhen tri mis, bydd cyflog Leanne yn haneru.
"Mae popeth yn mynd i gael ei effeithio," dywedodd.
"T’mod mae bywyd, mae’r gost of living crisis ’da ni, mae mab ’da fi, t’mod, mae teulu ’da fi.
"So ie, mae’n mynd i fod yn real hit i fod yn onest."
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae Gwasanaeth Iechyd ac Undebau Llafur wedi dod i gytundeb a fydd yn galluogi gweithwyr i ddychwelyd i'r gwaith o dan amodau absenoldeb arferol.
Yn ôl y Llywodraeth, y bydd modd ystyried pob achos yn unigol a gallai hynny olygu mai dychwelyd am gyfnodau ar y tro bydd rhai cleifion Covid hir.
Mae Leanne eisiau dychwelyd i'r gwaith ond yn poeni am effaith o Covid hir.
"Dwi’n becso bydda i yn yr un sefyllfa ryw chwe mis, blwyddyn ar ôl mynd nôl i’r gwaith."
"T’mod, ife hyn sy’n mynd i fod y patrwm i’r dyfodol?"
"Sai’n gwybod, achos so neb yn gwybod lot am Covid Hir, hyd yn oed yn awr."