Myfyrwyr yn dylunio 'leggings cynaliadwy' i athletwyr Gemau'r Gymanwlad

10/07/2022

Myfyrwyr yn dylunio 'leggings cynaliadwy' i athletwyr Gemau'r Gymanwlad

Mae myfyrwyr o Brifysgol De Cymru wedi dylunio 'leggings' cynaliadwy i athletwyr Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad. 

Enillodd Bethan Jones ac Olivia Soady gystadleuaeth Gemau'r Gymanwlad mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru.

Ar ôl cael briff gan Dîm Cymru, roedd dyluniad y ddwy yn canolbwyntio'n bennaf ar gynaliadwyedd, sicrhau bod y leggings yn ymarferol, para'n hir a gyda elfen o hunaniaeth Gymraeg.

Roedd y ddwy fyfyrwraig, sydd yn eu blwyddyn olaf, wedi gweithio gyda Onesta, sef cwmni dillad cynaliadwy sydd wedi ei leoli yn Llanelli. 

Mae'r leggings yn cynnwys delweddau o'r ddraig goch a'r geiriau "bach ond grymus".

Image
"Bach ond grymus"

Dywedodd darlithydd Ffasiwn a Marchnata Prifysgol De Cymru, Steven Wright wrth Newyddion S4C: "Mae'r prosiect yn bwysig, mae'n deimlad anhygoel i'r dylunwyr fel dylunwyr Cymreig ac i fi fel darlithydd mewn prifysgol yng Nghymru i weld ein gwaith mewn man cyhoeddus fel hyn.

"Mae'r ddraig goch yn symbol o Gymru, ond mae'r dylunwyr a finnau eisiau cadw'r dyluniad yn syml ond hefyd eisiau i bobl gweld y dyluniad a meddwl bod hi'n Gymreig. Nid oeddem ni eisiau i bobl meddwl am y Gymru draddodiadol, ond Cymru heddiw."

Dywedodd Bethan: “Roedd gan Olivia a finnau cysyniad tebyg. Roedd un fi yn ffocysu ar symbolau pwerus Cymru, a bod yn falch o fod yn Gymreig yn ogystal â phwysigrwydd cynhyrchiad cynaliadwy. 

"Roedd hi'n gyfle cyffroes i mi gael gweithio ar y prosiect gyda Thîm Cymru."

Cynhyrchwyd 360 pâr o leggings i gyd, ac fe gawsant eu cyflwyno ar ddydd Gwener pan ddaeth taith Baton y Frenhines i Lanelli, a gwisgwyd y leggings gan chwaraewr rygbi Cymru a chludwr y baton, Jasmine Joyce.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.