Newyddion S4C

Bachgen 15 oed wedi marw mewn chwarel ym Mhont-y-pŵl

07/07/2022
Llun o gar heddlu.

Mae bachgen 15 oed wedi marw ar ôl syrthio i mewn i chwarel ym Mhont-y-pŵl ddydd Mercher.

Cafodd merch 14 oed o Flaenafon ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gydag anafiadau difrifol.

Cafodd y bachgen o ardal Pont-y-pŵl ei ddatgan yn farw yn y fan a’r lle gan barafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru.

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi cael eu galw am 18:30 nos Fercher.

Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo’r ymchwiliad i ffonio 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod log 2200225719 neu anfon neges uniongyrchol ar Facebook neu Twitter.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.