Y ceffylau blaen yn y râs i olynu Boris Johnson

Wedi penderfyniad Boris Johnson i ymddiswyddo fel prif weinidog ddydd Iau, pwy fydd yn ei olynu yn rhif 10?
Mae disgwyl i Mr Johnson wneud cyhoeddiad yn ddiweddarach ddydd Iau am union fanylion ei ymddiswyddiad.
Mae darogan y gallai ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr yn syth, gan barhau fel prif weinidog tan yr hydref.
Rishi Sunak sy'n arwain y ras i'w olynu ar hyn o bryd yn ôl adroddiadau. Mr Sunak oedd y cyntaf i ymddiswyddo o'r Cabinet dydd Mawrth, cyn i lu o weinidogion ac is-weinidogion ei ddilyn.
Mae Penny Mordaunt a Liz Truss hefyd yn rhai o'r ceffylau blaen i olynu Mr Johnson.
Mrs Mordaunt yw'r Gweinidog dros Bolisi Masnach ac mae hi wedi bod yn feirniadol o bolisi'r llywodraeth yn ddiweddar.
“Mae'n ddinistriol ar fywyd unrhyw un sy'n gwneud y swydd"@DavidTCDavies yn tynnu ei enw allan o’r het o fod yn Brif Weinidog nesaf y DU. pic.twitter.com/bQ3Z0mMD32
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) July 7, 2022
Mae'r Gweinidog Tramor Liz Truss wedi bod yn gefnogol i Boris Johnson yn sgil yr ymddiswyddiadau, ond mae hi yn dychwelyd i Brydain o gynhadledd y G20 yn gynnar ddydd Iau.
Mae'r Telegraph yn deall bod y Canghellor newydd, Nadhim Zahawi wedi bod yn llunio cynllun arweinyddiaeth ers misoedd.
Mae'r Twrnai Cyffredinol Suella Braverman wedi dweud y byddai'n "fraint o'r mwyaf" i arwain y wlad ac mae Is-gadeirydd y Grŵp Adfer Covid, Steve Baker, wedi datgan ei fod ef yn "ystyried yn ddwys" rhoi ei enw yn yr het am swydd yr arweinydd.
Darllenwch ragor yma.