Gadael grym: Bywyd Boris Johnson mewn gwleidyddiaeth

07/07/2022

Gadael grym: Bywyd Boris Johnson mewn gwleidyddiaeth

Cafodd Boris Johnson ei ethol fel Prif Weinidog yn 2019, gan olynu Theresa May.

Roedd wedi gwasanaethu fel Ysgrifennydd Tramor yng nghabinet Theresa May o 2016 tan iddo ymddiswyddo yn 2018 fel protest yn erbyn cynllun Brexit Chequers.

Un o’i flaenoriaethau fel Prif Weinidog oedd i gwblhau Brexit wedi ymadawiad Mrs May ac fe adawodd y Deyrnas Unedig y bloc gwleidyddol ar 31 Rhagfyr 2020.

Roedd Mr Johnson wedi cynrychioli etholaeth Uxbridge a De Ruislip yn Llundain ers 2015, ac roedd yn AS ar gyfer etholaeth Henley yn Swydd Rhydychen rhwng 2001 a 2008.

Llundain a'r Gemau Olympaidd

Rhwng 2008 a 2016, roedd yn Faer Llundain, gan weld y ddinas yn croesawu un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd – y Gemau Olympaidd – yn 2012.

Image
Boris Johnson, Sebastian Coe a David Cameron
Boris Johnson gyda David Cameron a'r Arglwydd Sebastian Coe cyn y Gemau Olympaidd yn 2012 

Cafodd ei gyfnod fel Prif Weinidog ei lywio gan bandemig Covid-19, gyda nifer o gyfnodau clo wedi eu cyflwyno i ymateb i’r feirws a chynllun ffyrlo i gefnogi gweithwyr nad oedd yn gallu mynd i’r gwaith pan yn gorfod aros adref.

Ond roedd nifer o faterion wedi cael effaith ar ei arweinyddiaeth yn ystod y misoedd diwethaf, gyda nifer cynyddol o’i ASau ei hun yn datgan diffyg hyder ynddo.

Fe dderbyniodd ddirwy gan Heddlu’r Met am fynychu digwyddiad i ddathlu ei ben-blwydd ym mis Mehefin 2020 oedd yn groes i reolau Covid-19 ei lywodraeth ar y pryd.

Roedd hefyd wedi ei feirniadu am geisio newid y rheolau i alluogi’r cyn-Aelod Seneddol Owen Paterson i barhau yn ei rôl wedi i bwyllgor Seneddol ei gael e’n euog o dorri rheolau lobïo ASau.

Fe addawodd Boris Johnson i newid ei dîm yn Downing Street gan benodi ei gyfaill Guto Harri yn Gyfarwyddwr Cysylltiadau fel rhan o dîm newydd.

Diffyg Hyder

Fe wynebodd Mr Johnson bleidlais o ddiffyg hyder gan ei aelodau seneddol ym mis Mehefin, gan ennill o 211 i 148.

Ond yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae’r Ceidwadwyr wedi colli dau is-etholiad yn Wakefield yn Swydd Efrog a Tiverton a Honiton yn Nyfnaint – lle drodd mwyafrif o 24,000 i’r Ceidwadwyr yn fwyafrif o 6,000 i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ers hynny, roedd Boris Johnson wedi ei feirniadu am benodi Chris Pincher yn Ddirprwy Brif Chwip er gwaethaf honiadau o aflonyddu’n rhywiol yn ei erbyn.

Roedd Mr Johnson wedi dadlau nad oedd yn ymwybodol o’r honiadau yn erbyn Mr Pincher, ond yn ddiweddarach fe ddaeth i’r amlwg nad oedd hynny’n wir a bod Mr Johnson wedi ei friffio ar y mater rai blynyddoedd yn ôl.

O ganlyniad, fe ymddiswyddodd y Canghellor Rishi Sunak, yr Ysgrifennydd Iechyd Sajid Javid, Ysgrifennydd Cymru Simon Hart, Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon Brandon Lewis a mwy na 50 o weinidogion iau yn y llywodraeth.

Tyfu wnaeth y gwrthwynebiadau iddo o fewn ei blaid, ac yn y pen draw nid oedd modd iddo gyfiawnhau ei sefyllfa gyda chymaint yn awchu i gael gwared ohono.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.