Mam Logan Mwangi 'wedi newid ei delwedd' ar ôl llofruddiaeth ei mab

Wales Online 01/07/2022
Angharad Williamson

Fe wnaeth mam Logan Mwangi wneud "newidiadau sylweddol" i'w delwedd yn yr wythnosau ar ôl iddi ladd ei mab. 

Cafodd Angharad Williamson, 31, ei charcharu am oes ddydd Iau am lofruddio'r bachgen pump oed yn Sarn ger Pen-y-bont ar Ogwr y llynedd.

Cafodd llys-dad Logan, John Cole a Craig Mulligan, 14 oed, hefyd eu carcharu am oes am lofruddio'r bachgen.

Yn ystod yr achos, clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Williamson wedi gwneud newidiadau i'w delwedd yn yr wythnosau wedi marwolaeth Logan mewn ymdrech i osgoi cael ei hadnabod. 

Fe newidiodd liw ei gwallt o binc i frown, gan ddechrau gwisgo sbectol a newid ei henw i 'Angie.' 

Clywodd y llys bod Williamson wedi gwneud y newidiadau ar gyngor awdurdodau'r carchar ar ôl i garcharorion eraill ddechrau ei bygwth o ganlyniad i farwolaeth Logan. 

Darllenwch fwy yma

Llun: Heddlu De Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.