
Cyhoeddi rhestr fer Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol 2022
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi enw'r pedwar sydd wedi cyrraedd rhestr fer Dysgwr y Flwyddyn eleni.
Mae'r gystadleuaeth yn cael ei threfnu ar y cyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.
Fe gafodd cyfanswm o 18 o unigolion gyfweliad eleni, o Gymru a thu hwnt, a'r pedwar sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ydy'r canlynol:
Stephen Bale

Mae Stephen yn wreiddiol o Gastell-nedd, ond yn byw ym Magwr yn Sir Fynwy erbyn hyn.
Yn gyn-ohebydd rygbi i'r papurau yn Llundain yn ogystal â de Cymru, roedd Stephen wastad yn teimlo yn rhwystredig wrth beidio gallu siarad y Gymraeg.
Er ei fod wedi ceisio dysgu'r iaith yn y 70au, fe gafodd mwy o gyfle wedi iddo ymddeol gan ymuno â dosbarth Dysgu Cymraeg Gwent, ac mae bellach wedi cyrradd lefel Uwch.
Mae Stephen yn ymhyfrydu yn y Gymraeg, gan gefnogi dysgwyr eraill a gwirfoddoli yn y ganolfan Gymraeg leol.
Joe Healy

Daw Joe o Wimbledon yn wreiddiol, ond symudodd i Gaerdydd i astudio yn y brifysgol cyn penderfynu i aros yn y brifddinas.
Dechreuodd ddysgu'r Gymraeg yn 2018, ac yn gwbl hyderus wrth ei siarad hi erbyn heddiw, boed yn gymdeithasol neu yn y gwaith.
Yn angerddol dros yr iaith a Chymru, mae Joe yn awyddus i weld y Gymraeg yn ffynnu yn y dyfodol, ac yn defnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd o'i fywyd.
Ben Ó Ceallaigh

Symudodd Ben o Iwerddon i Gymru heb siarad gair o Gymraeg, ond flwyddyn yn ddiweddarach, roedd yn darlithio ar bynciau astrus ac ysgolheigaidd yn yr iaith.
Dechreuodd gael gwersi Dysgu Cymraeg yn haf 2021, ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers hynny wrth fynychu gwersi Cymraeg dair gwaith yr wythnos.
Un o ddiddordebau mwyaf Ben ydy'r cysylltiad rhwng argyfwng hinsawdd ac argyfwng ieithoedd lleiafrifol y byd, gan drafod y mater ar bodlediad 'HEFYD'.
Sophie Tuckwood

Fe wnaeth Sophie symud o Nottingham i Hwlffordd ac mae hi bellach yn fam i ddau o blant bach.
Wedi iddi fynychu sesiynau Clwb Cwtsh a Chymraeg i Blant, roedd Sophie yn awyddus i gofrestru ar gwrs Cymraeg i'r Teulu gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro, ac roedd hi'n benderfynol y byddai ei phlant yn derbyn addysg Gymraeg.
Mae ei diddordeb hi yn y Gymraeg wedi ei hysgogi i ddilyn cwrs gradd meistr mewn Ieithyddiaeth yn ogystal â dysgu pum dosbarth Mynediad yn lleol.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn am 15:00, ddydd Mercher 3 Awst.