Seremoni gyhoeddi Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 wedi ei chynnal y tu mewn ym Mhorthmadog
Seremoni gyhoeddi Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 wedi ei chynnal y tu mewn ym Mhorthmadog
Bu'n rhaid cynnal seremoni gyhoeddi Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 y tu mewn yn Ysgol Eifionydd ym Mhorthmadog ddydd Sadwrn.
Mae'r Brifwyl yn cael ei chynnal dwy flynedd yn hwyrach na’r disgwyl ym Moduan ger Pwllheli rhwng 5 a 12 Awst 2023 oherwydd y pandemig.
Fe wnaeth cadeirydd y pwyllgor gwaith Michael Strain gyflwyno copi cyntaf o’r Rhestr Testunau i’r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd yn y seremoni.
Mewn datganiad fore dydd Sadwrn dywedodd yr Eisteddfod: “Oherwydd glaw'r bore ‘ma a rhagolygon gwael ar gyfer y prynhawn, mae swyddogion Gorsedd Cymru a staff yr Eisteddfod wedi penderfynu cynnal Seremoni’r Cyhoeddi y tu mewn yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog.”
Dywedodd yr Arwyddfardd, Dyfrig ab Ifor, “Un o gyfrifoldebau cyntaf bore’r Cyhoeddi yw penderfynu a yw’r Seremoni am ei chynnal y tu allan neu o dan do. Yn anffodus, mae hi eisoes wedi bod yn bwrw'r bore ‘ma ac mae’r rhagolygon yn wael ar gyfer gweddill y dydd, ac felly byddwn yn cynnal y Seremoni yn Ysgol Eifionydd am 15:00.”
Yn ei araith fe alwodd yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd am dreth twristiaeth. Dywedodd: "Yr unig ffordd y gallwn ni werthfawrogi ein gweithwyr allweddol yw drwy sicrhau fod modd iddyn nhw gael cyflogau call a chartrefi yn y broydd maen nhw’n eu gwasanaethu. Rhaid i dwristiaeth felly, gyfrannu mwy i’r economi leol mae’n ddibynnol arni. Mae treth dwristiaeth i’w chael yn y rhan fwyaf o wledydd ac ardaloedd twristaidd y byd. Dyma’r arian sy’n cynnal gwasanaethau fel canolfannau croeso, cyfleusterau cyhoeddus, llwybrau cerdded a beicio, traethau baner las, cawodydd traeth, timau diogelwch a gweithwyr hanfodol. Fedran Nhw ddim byw hebddan Ni a gadewch inni roi cyfle iddyn nhw gyfrannu at hynny."
Fe gyfeiriodd hefyd at y rhyfel yn Wcráin.
Ychwanegodd: "Allwn ni ddim osgoi ochr dduach y flwyddyn hon chwaith. Allwn ni ddim galw ‘Heddwch!’ yn un o ddefodau Gorsedd Cymru a throi cefn ar ryfel a gormes yn y byd. Dydi’r pandemig ddim wedi gwneud yr ymerodraethau mawr yn fwy dynol gwaetha’r modd. Yma yng Nghymru, rydan ni’n dechrau wynebu ein gwir hanes a chydnabod y rhan oedd gan ein stadau, ein plasdai a hyd yn oed ein capeli yn y fasnach gaethwasiaeth. Mae’n dda clywed yr Urdd, Cytûn a Senedd Cymru yn rhoi arweiniad yn y ffordd y dylem groesawu a gofalu am ffoaduriaid, gan ein codi i fod yn Wlad Noddfa.
“Rydan ninnau yng Ngorsedd Cymru ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ategu hynny’n gryf. Hau hadau rhyfeloedd y dyfodol ydi’r hyn mae llywodraeth Llundain yn ei wneud. Nid gwastraff i’w ail gylchu a’i roi mewn tyllau yn nhrydydd byd Rwanda ydi ffoaduriaid.”