
Golwg gyntaf ar Goron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022
Cafodd Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 eu cyflwyno i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl mewn seremoni arbennig yn Nhregaron nos Iau.
Fe gafodd y Goron ei chreu gan yr artist Richard Molineux ac mae hi wedi ei rhoi gan Fridfa Ryngwladol Cobiau Cymreig Derwen.
Mae'r Goron yn cael ei gyflwyno am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau ar y pwnc gwres.
Y beirniad eleni oedd Cyril Jones, Glenys Mair Roberts a Gerwyn Williams.
Mae'r goron yn cyfuno elfennau o ddiwylliant ardal y brifwyl eleni, gyda Chastell Aberteifi, Cors Caron, y barcud coch ac Afon Teifi yn eu plith.

Mae'r Gadair hefyd wedi ei chyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith nos Iau.
Caiff y Gadair ei chreu gan Rees Thomas ac mae hi wedi ei noddi gan Gylch Cinio Aberystwyth eleni.
Mae'n cael ei chyflwyno am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol hyd at 250 o linellau, ar y teitl Traeth.
Yn beirniadu eleni oedd Idris Reynolds, Emyr Lewis a Twm Morys.