Newyddion S4C

Wcráin: Aduniad emosiynol ffrindiau ysgol

Newyddion S4C 23/06/2022

Wcráin: Aduniad emosiynol ffrindiau ysgol

Mae dwy ffrind ysgol o Wcrain wedi cael aduniad emosiynol ym Maes Awyr Manceinion.

Roedd Nataliia, sy’n byw yng Nghaernarfon gyda’i gŵr Dewi a’u plant, wedi bod yn gweithio’n ddiflino ers wythnosau i helpu ei ffrind Yuliia gyda’r gwaith papur er mwyn iddi gael caniatad i ddod i fyw i Brydain.

Fe wnaeth Yuliia a’i merched sy'n 12, 8, 3 oed ffoi o’r ymladd yn Mariupol ddechrau fis Ebrill ac ymhen hir a hwyr wedi taith hunllefus mi lwyddo nhw i groesi’r ffin i Wlad Pwyl. 

Fe fuon nhw’n byw yno am ddeufis cyn llwyddo i ddal yr awyren draw i Brydain.

Roedd Nataliia yn torri ei bol isio i Yuliia a'r genod ddod i fyw i Ogledd Cymru, ond gan eu bod nhw eisoes yn noddi ei mam a'i llys-dad dan y cynllun 'Cartrefi i Wcráin', doedd dim lle i bawb yn y tŷ.

Ers wythnosau mae Nataliia wedi bod yn trio dod o hyd i noddwr i Yuliia yng nghyffiniau Caernarfon fel ei bod hi'n gallu bod yn gefn i Yuliia. 

Yna, tua thair wythnos yn ol, daeth cadarnhad fod cwpwl o Fangor wedi dod i’r fei.

Image
Wcráin
Roedd Nataliia yn awyddus iawn i Yuliia a'i merched ddod i fyw yn y gogledd.

Noddfa ym Mangor

Mae Nia ac Owen yn falch iawn eu bod nhw yma.

Pan ofynwyd i Nia, be wnaeth eu hysgogi fel cwpwl i gynnig cartref i’r teulu? Ei hateb yn syml oedd “Pam lai?”

Cymryd pethau yn ara deg fydd y ddau deulu, gyda Nia yn dweud mai ei phrif obaith dros yr wythnosau a’r misoedd nesa ydi y bydd y teulu “yn teimlo'n saff ac y bydd y genod yn cael bod yn blant eto.”

Wrth drefnu i gartrefu ffoaduriaid, mae yna gryn waith llenwi ffurfleni o’r ddwy ochr, ac mae Nia yn rhoi pob clod i ffrindiau Yuliia yng Nghaernarfon am eu help, gan nad oedd angen iddi hi ysgwyddo fawr ddim o’r llwyth gweinyddol gan fod  “Nataliia wedi gwneud yr holl waith swyddogol.”

Mae’r teulu ym Mangor fodd bynnag wedi bod yn brysur yn cael pethau’n barod yn eu cartref gan “drefnu’r llofftydd” a pharatoi “digon o welyau i’r pedair.”  

Gyda’r merched yn 12, 6, 3 mae angen digon o bethau yn y ty i’w diddanu.  Eglurai Nia ei bod wedi cadw rhai o drugareddau ei phlant ei hun yn ddiogel mewn bocsus dros y blynyddoedd ac wedi  “dod â hen deganau'r plant i lawr”.

“Mae pobl o'n cwmpas ni'n hael gyda'u hamser a'u rhoddion.” 

Ar y dechrau mae’r ddau deulu yn cyfaddef fod cyfathrebu yn mynd i fod yn her, ond mae Nia yn edrych ymlaen “Google translate amdani; llawer o ystumiau a digon o chwerthin gobeithio!”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.