Mwy o gleifion 'mewn poen enbyd' ar restrau aros y GIG yng Nghymru
Mae'r nifer o bobl mewn 'poen enbyd' ar restrau aros y GIG yn parhau i gynyddu yng Nghymru, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Mae data gan Llywodraeth Cymru yn dangos bod y nifer o bobl sy'n disgwyl am ofal di-frys wedi cyrraedd eu lefelau uchaf am y 24ain mis yn olynol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed bod 95% o gleifion yn disgwyl llai na chwe mis a bod neb yn disgwyl mwy na naw mis ar gyfer triniaeth.
Mae ffigyrau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar gyfer mis Mai yn dangos mai dim ond o gwmpas hanner (54.5%) o alwadau coch, lle mae bywyd yn y fantol, a gafodd eu cyrraedd o fewn y targed o wyth munud, sydd dipyn is na'r targed o 65%.
Ysbyty Glan Clwyd oedd gan y ffigyrau achosion brys gwaethaf ar gyfer mis Mai, gyda 58.2% yn gorfod treulio mwy na phedair awr yno.
Darllenwch fwy yma.