Cyhoeddi Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi'r pum enw sydd wedi eu gwahodd i fod yn Llywyddion Anrhydeddus ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.
Mae'r pump yn adnabyddus i bobl yr ardal, ac wedi eu gwahodd i fod yn llywyddion yn sgil eu cyfraniad i ddiwylliant Cymru a'r Gymraeg yn lleol.
Dyma'r pump sydd wedi eu gwahodd:
Gwilym H Griffith
Mae Gwilym yn adroddwr a chynhyrchydd drama o Lwyndyrys sy'n adnabyddus hefyd fel Gwilym Plas. Fe wnaeth dreulio ei fywyd yn ffermio ym Mhlas Newydd yng Ngharnguwch gan hyfforddi cenedlaethau o lefarwyr gyda Jean, ei wraig.
Dau uchafbwynt oedd trefnu taith yn cyflwyno drama Wil Sam ym Mhatagonia a derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams yn 2005.
Kenneth Hughes
Roedd Ken yn bennaeth yn Ysgol Eifion Wyn ym Mhorthmadog am dros 20 mlynedd ac fe wnaeth gynnig amryw o brofiadau i'r disgyblion, gyda'r iaith a'r diwylliant yn greiddiol i bopeth.
Mae'n parhau yn brysur yn ei gymuned ac mae wedi cyfarwyddo sioe blant yn Eisteddfod yr Urdd.
Fe ddaeth cynulleidfa S4C i adnabod Ken Hughes yn well yn ystod y gyfres Cadw ni Fynd, yn ystod y cyfnod clo.
Carys Jones
Roedd Carys yn un o hoelion wyth Aelwyd Chwilog ynghyd â Pat Jones gan gael blynyddoedd o lwyddiant yn yr Eisteddfodau, boed gydag unigolion neu gorau.
Fe wnaeth Carys dderbyn Tlws Coffa John a Ceridwen Hughes yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Y Bala yn 2014 am ei chyfraniad i'w hardal.
Esyllt Maelor
Symudodd Esyllt i fyw o Harlech i Abersoch ac mae'n un o 'genod Rabar', ond bellach yn byw ym Morfa Nefyn.
Mae hi wedi gweithio ar lu o briosectau gwahanol yn y byd addysg ond doedd dim yn rhoi mwy o bleser iddi na chydweithio gyda phlant a phobl ifanc.
Fe gafodd hi ei hysbrydoli gan ei chyn-ddisgyblion am ddangos pa mor bwysig ydy geiriau, ac yn grediniol bod yna sgwennwr ymhob plentyn.
Rhian Parry
Mae Rhian yn un o wynebau'r byd llefaru yng Nghymru ac yn gefnogwr brwd o'r Eisteddfod..
Fe wnaeth Rhian sefydlu côr llefaru, Genod Llyn, ac maent wedi bod yn cystadlu yn rheolaidd ers bron i ugain mlynedd.
Mae hi hefyd yn feirniaid cenedlaethol, yn arweinydd llwyfan profiadol yn y Pafiliwn, ac yn gyn-enillydd Gwobr Llwyd o’r Bryn a Gwobr Goffa'r Fonesig Ruth Herbert Lewis ar lwyfan y Brifwyl.
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, ei bod hi'n "bwysig cydnabod cyfraniad unigolion allweddol i ddiwylliant bro’r Eisteddfod.
"Dyma bobl sy’n gweithio’n ddiflino drwy’r amser, os yw Eisteddfod ar y gorwel ai peidio. Heb y bobl yma, byddai’r ardal yn dipyn tlotach ei diwylliant."