Rhybudd melyn am stormydd i'r rhan helaeth o Gymru ddydd Iau
23/06/2022
Mae rhybudd melyn am stormydd wedi ei gyhoeddi ar gyfer y rhan helaeth o Gymru ddydd Iau.
Mae'r rhybudd gan y Swyddfa Dywydd mewn grym rhwng 10:00 a 23:59.
Mae rhybuddion y gallai'r stormydd achosi llifogydd a difrod i adeiladau.
Fe allai gwasanaethau trafnidiaeth gael eu hoedi o ganlyniad i lifogydd neu daranau ac fe allai achosi amodau teithio gwael.
Gallai bŵer gael ei golli mewn rhai cartrefi a busnesau.
Mae'r rhybudd yn effeithio ar 15 o siroedd Cymru:
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Merthyr Tudful
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Ddinbych
- Sir Fynwy
- Sir y Fflint
- Torfaen
- Wrecsam