Teyrnged teulu i fachgen 'cariadus iawn' fu farw yn Afon Taf
Mae teulu bachgen 13 oed a gafodd ei ddarganfod yn farw yn Afon Taf ddydd Mawrth wedi rhoi teyrnged iddo.
Mewn datganiad, dywedodd ei deulu "na fydd diwrnod pan na fyddwn yn gweld ei eisiau".
Cafodd Aryan Ghoniya ei ddarganfod yn yr afon am tua 17:45 ar ôl i wasanaethau brys geisio dod o hyd iddo.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, nid oedd modd ei adfywio.
Dywedodd ei deulu mai Aryan oedd eu "Athro Bach" oedd yn "wych am Fathemateg" ac yn dda am bopeth yn academaidd.
Dywedon nhw hefyd ei fod yn "gariadus iawn", bod ganddo "bersonoliaeth gynnes" ac roedd "pawb oedd yn ei adnabod yn ei garu".
Mae'r Crwner wedi cael gwybod ac mae ymchwiliad i amgylchiadau ei farwolaeth yn parhau.
Llun teulu