Olion o feirws polio yn cael eu canfod mewn carthion yn Llundain

Mae olion o feirws polio wedi cael eu canfod mewn carthion yn Llundain gan olygu bod yr Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi cyhoeddi digwyddiad cenedlaethol.
Mae'r swyddogion iechyd yn ofni am ymlediad yr haint yn y gymuned wedi i samplau gael eu casglu yn Ngwaith Trin Carthion Beckton yn Llundain.
Maent wedi rhybuddio bod y risg i'r cyhoedd yn parhau yn ofnadwy o isel.
Fe gafodd sawl sampl o firysau yn ymwneud â polio eu canfod mewn samplau carthion rhwng mis Chwefror a mis Mai.
Mae awdurdodau iechyd bellach wedi datgan digwyddiad cenedlaethol ac wedi hysbysu Sefydliad Iechyd y Byd am y sefyllfa.
Dywedodd swyddogion eu bod yn credu bod rhywfaint o ymlediad wedi digwydd ymysg unigolion yng ngogledd-ddwyrain Llundain.
Mae rhan helaeth o'r boblogaeth yn y DU wedi eu hamddiffyn gan frechlyn yn ystod eu plentyndod, ond mae rhai cymunedau yn parhau gyda canran isel o'r bobl sydd wedi cael y frechlyn, sy'n golygu bod y risg yn fwy iddyn nhw.
Darllenwch fwy yma.